Dyfodol i’r Iaith

Mae Dyfodol i’r Iaith yn fudiad amhleidiol sy’n gweithredu er lles yr iaith Gymraeg. Nod y mudiad yw dylanwadu drwy ddulliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg ym mhob maes polisi. Bydd yn gweithredu er budd Cymru a’i phobl, gan ennill cefnogaeth a pharch i’r iaith a sicrhau bod y Gymraeg yn fater byw ar yr agenda gwleidyddol.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r cyfle i gyflwyno sylwadau fel rhan o’r ymgynghoriad.

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r sylwadau isod ar flaenoriaethau’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gyfer y pumed Cynulliad. Fel mudiad sy’n gweithredu er lles y Gymraeg, byddwn yn cyfyngu ein sylwadau i faterion yn ymwneud â’r iaith

CYFFREDINOL

Gyda chyhoeddi Strategaeth y Gymraeg a’r nod o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050, byddwn yn galw ar i’r Pwyllgor sicrhau cynllunio gofalus a chydlynus er mwyn cyrraedd y nod uchelgeisiol hwn. Bydd angen craffu’r camau’n fanwl, gan roi ystyriaeth lawn i’r holl oblygiadau mewn perthynas â’r meysydd polisi perthnasol os am gadw at y nod a gwireddu’r targed clodwiw hwn.

O safbwynt cyllid a gwariant, nid ydym yn fodlon wynebu rhagor o doriadau i gyllid y Gymraeg nag ar wariant cynlluniau a phrosiectau sy’n hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg. Cyfeiliornus byddai credu am eiliad ei bod yn bosib cyrraedd nod Strategaeth y Gymraeg heb fuddsoddiad digonol.  Mewn tri maes penodol, addysg, Cymraeg i Oedolion a Chanolfannau Cymraeg, mae angen cynyddu buddsoddi’n sylweddol dros yr ugain mlynedd nesaf.

Sail ein sylwadau yw bod angen rhoi’r prif sylw i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, a’r defnydd a wnânt o’r iaith yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymuned.


 

BLAENORIAETHAU

Mae Dyfodol eisoes wedi cyhoeddi ein blaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg ar ffurf ein dogfen maniffesto, Creu Dyfodol i’r Gymraeg, a gellir crynhoi ein prif gasgliadau fel â chanlyn:

-        Cynyddu nifer siaradwyr drwy dwf Addysg Gymraeg. Ein nod fyddai cael 50% o blant 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030. I gyflawni hyn mae angen cael trefn hwyluso sefydlu ysgolion Cymraeg ledled ardaloedd llai Cymraeg y wlad.  Mae angen diwygio’r Cynlluniau Datblygu Addysg Gymraeg fel bod awdurdodau lleol yn ymrwymo i sefydlu nifer penodol o ysgolion Cymraeg newydd bob blwyddyn.

Yn y cyd-destun addysg mae angen dysgu’r Gymraeg yn effeithiol mewn ysgolion Saesneg, ac mae hyn yn rhwym o olygu cyflwyno dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen rhaglen hyfforddiant ieithyddol eang i gymhwyso nifer cynyddol o athrawon.

-        Cymraeg i Oedolion i ganolbwyntio ar:

-        Ddatblygu’r gweithlu ar gyfer addysg a gwasanaethau Cymraeg.  Er mwyn i’r drefn genedlaethol allu cyfrannu at nodau ieithyddol y llywodraeth ym maes addysg, bydd angen mesur faint o staff y gellir eu rhyddhau i ddilyn cyrsiau iaith dwys.  I sicrhau  gwasanaeth Cymraeg y myd llywodraeth leol, bydd angen yr un math o fesur.  Rydym yn barnu y bydd angen dyblu’r cyllid a roddir gan y Llywodraeth ar hyn o bryd i faes Cymraeg i Oedolion.

-        Cefnogi rhieni sydd am greu cartrefi Cymraeg.  Rydym yn cytuno â gweledigaeth cynllunwyr iaith ar bwysigrwydd y cartref wrth drosglwyddo iaith.  Mae angen creu trefn a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i rieni gael eu rhyddhau o’r gwaith er mwyn meistroli a dysgu’r iaith, ar yr amod eu bod yn cyfrannu at gartrefi lle bydd y Gymraeg yn iaith gyntaf.

-        Sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Cymraeg ledled Cymru. Bydd y Canolfannau hyn yn cydweithio gyda’r Mentrau Iaith, Cymraeg i Oedolion ac eraill i sbarduno a chydgysylltu gweithgareddau Cymraeg.  Rydym yn credu bod angen 100 o Ganolfannau ledled y wlad.  Gall y model amrywio o le i le, o gael adeilad hollgynhwysol, i dderbyn caffi neu dafarn mewn pentref yn ganolbwynt i weithgareddau Cymraeg ac fel man i sbarduno dysgwyr.

-        Hyrwyddo gwasanaeth Cymraeg llafar, wyneb-yn–wyneb i gwsmeriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn enwedig siopau a mannau cymdeithasu. Dylai Comisiynydd y Gymraeg gael cyfarwyddyd i flaenori hyn, a dylai’r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg i Oedolion arwain y gwaith.

-        Datblygu gweithleoedd Cymraeg

mewn gweinyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus

ym myd busnes

Rydym am weld llywodraeth leol yn mynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, yn hytrach na dim ond cynnig wyneb dwyieithog i’r cyhoedd.

-        Penodi Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Arbennig lle byddai’r Gymraeg yn ystyriaeth hanfodol mewn polisi cynllunio a chartrefu.  Gall hyn amrywio o ardal i ardal.  Yn genedlaethol mae angen rhoi pwyslais ar fannau lle mae’r Gymraeg eisoes yn iaith y mwyafrif, ond mewn llawer o siroedd mae angen hwyluso twf y Gymraeg, a sicrhau bod ysgolion Cymraeg yn cael eu sefydlu wrth i ystadau tai newydd gael eu codi.

-        Sicrhau dyfodol llewyrchus i S4C a’r cyfryngau torfol a chymdeithasol, gan gynnwys darparu dwy sianel radio.  Rydym am bwysleisio’r angen i’r Gymraeg gael ei defnyddio ar lwyfannau digidol ac electronig, gyda phwyslais ar ddatblygu meysydd a fydd yn apelio i’r to ifanc.

-        Sicrhau bod yna weithredu effeithiol i gyrraedd yr amcanion hyn drwy sefydlu Gweinyddiaeth i’r Gymraeg, gydag arbenigedd digonol, o fewn Llywodraeth Cymru, er mwyn

-        Llunio strategaeth gynhwysfawr a chyson

-        Rhoi gweithredu’r strategaeth yng ngofal Asiantaeth Iaith hyd-braich a’r rhyddid i arloesi a sbarduno

-        Rydym o’r farn nad yw trefn bresennol gweinyddiad llywodraeth ar y cyfan yn rhoi modd i gynlluniau arbrofol a blaengar gael eu datblygu.  i’r perwyl hwn rydym am weld Gweinyddiaeth Gymraeg yn cael ei sefydlu a fydd cydlynu polisïau ieithyddol y llywodraeth.

Yn unol â’r gofyn, sylwadau cryno a gyflwynir gennym; ond manteisiwn ar y cyfle hwn i ddatgan ein parodrwydd i ymhelaethu ar hyn ac i drafod ymhellach fel bo’n addas.